Vaughan: Jon Gower
Yr wythnos hon mae Vaughan yn cael cwmni'r awdur a'r newyddiadurwr Jon Gower, fu'n annerch cynhadledd yn Siambr Hywel ym Mae Caerdydd ar sut i gael pobl ifanc i gyfranogi yn y broses ddemocrataidd.
Vaughan: Cynog Dafis
Yr wythnos hon mae Vaughan yn cael cwmni'r cyn-aelod seneddol a chynulliad Plaid Cymru Cynog Dafis, sydd ar weithgor Cymru Yfory - y grwp sy'n ymgyrchu dros weithredu argymhellion Comisiwn Richard. Ddydd Gwener roedd y grwp yn rhoi tystiolaeth i Gonfensiwn Cymru Gyfan - sy'n ceisio cael barn pobl Cymru ynglyn chael pwerau newydd i'r Cynulliad.
Vaughan: Cadeirydd Pwyllgor Plant y Cynulliad
Yr wythnos hon mae Vaughan yn cael cwmni Aelod Cynulliad Plaid Cymru Helen Mary Jones sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad. Mae'r Pwyllgor newydd gyhoeddi adroddiad ar dlodi plant sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud drwy addysg, ond sy'n galw hefyd am fwy o gydweithio strategol rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth y Cynulliad i fynd i'r afael 'r broblem.
Vaughan: Paul Davies AC
Yn yr olaf o'n cyfres o sgyrsiau gydag aelodau o'r pedair plaid yn y Cynulliad mae Vaughan yn cael cwmni Aelod Cynulliad Preseli Penfro Paul Davies sy'n ddirprwy arweinydd grwp y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd.
Vaughan: Rhifyn yr wythnos o Dau o'r Bae
Mae'r Cynulliad wedi bod ar egwyl dros hanner tymor. Ond dyma rifyn yr wythnos o Dau o'r Bae.
Vaughan: Eleanor Burnham AC
Yr wythnos hon mae Vaughan yn cael cwmni aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Eleanor Burnham, sy'n trafod yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid yng Nghymru, a'r etholiad Ewropeaidd y flwyddyn nesaf.
Vaughan: Helen Mary Jones AC
Yr wythnos hon mae Vaughan yn cael cwmni'r Aelod Cynulliad o Blaid Cymru Helen Mary Jones, ac yn trafod sut yn ei barn hi mae'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn datblygu yn y Cynulliad.